Blog sy'n rhannu gwybodaeth ac ysgogi trafodaeth am eiddo deallusol drwy gyfrwng y Gymraeg.

2010-09-03

Yn y dechreuad ...

Allwn i ddim meddwl am le gwell i ddechrau blog newydd sy'n ymdrin ag eiddo deallusol na gydag ychydig eiriau ar Statud y Frenhines Anne a basiwyd ym 1709, statud a ystyrir fel y ddeddfwriaeth hawlfraint gyntaf yn y byd.

Wrth gwrs, mae deddfwriaeth hawlfraint wedi datblygu'n sylweddol ers y dyddiau hynny, ond mae'n werth mynd yn ol i'r dechreuad i weld beth a arweiniodd at gyflwyno'r statud yn y lle cyntaf.

Twf y diwydiant argraffu, diffyg rheolaeth dros y farchnad lyfrau ac effaith andwyol hynny ar awduron a llyfrwerthwyr Llundain a arweiniodd at yr alwad am y ddeddfwriaeth yn y maes hwn. Mae'n ddiddorol nodi mai deddf i amddiffyn y farchnad lyfrau oedd hi mewn gwirionedd gan mai'r arfer ar y pryd oedd i lyfrwerthwyr brynu'r hawl i waith oddi ar yr awduron cyn cyhoeddi.

Teitl llawn y ddeddf oedd 'An Act for the Encouragement of Learning, by vesting the Copies of Printed Works in the Authors or Purchasers of such Copies, during the Times therein mentioned.' Sylwer mai 'hyrwyddo dysg' oedd amcan honedig y ddeddf, a gwneud hynny drwy amddiffyn masnach y llyfrwerthwyr.

Mae'n ymddangos mai'r rhesymeg oedd nad oedd cynnydd yn y darpariaeth o lyfrau (hy mynediad at gynnwys) o reidrwydd yn arwain at gynnydd mewn dysg. Os nad oedd llyfrwerthwr yn credu y byddai'n cael elw digonol o'i werthiant (oherwydd y gystadleuaeth), nid oedd yn mynd i dalu cymaint i awdur am yr hawl i argraffu. Heb arian digonol i'w cynnal, ni fyddai awduron yn gallu ymroi i'w gwaith i'r un graddau.

Nid oedd y Ddeddf heb ei gwendidau, ond roedd yn llwyddo'n rhyfeddol i amddiffyn y fasnach a thrwy hynny gynnal y cydbwysedd rhwng buddiannau'r awdur, y llyfrwerthwr a'r cyhoedd.

Mae gwaith yr Athro Ronan Deazley yn herio'r syniadau traddodiadol cul ynghylch y rhesymeg dros fodolaeth hawlfraint (hy er budd yr awdur). Er nad yw Deazley yn cyfrannu'n uniongyrchol at y drafodaeth gyfredol ar hawlfraint yn ei waith On the origin of the right to copy (2005), mae ei sylwadau am ddechreuadau'r ddeddfwriaeth yn ei rhoi mewn goleuni newydd ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynglyn a phwrpas hawlfraint.

Wrth gwrs, nid yw hynny i ddweud fod hawl yr awdur i'w gynnyrch creadigol wedi'i ddiystyru ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Roedd y ddeddf yn cadarnhau mai i'r awdur roedd yr hawl i'r gwaith yn perthyn yn wreiddiol. Rwy'n bwriadu ysgrifennu mwy ar yr egwyddorion sy'n sylfaen i'r cysyniad o hawlfraint wedi i mi gael mwy o amser i ddarllen amdano.

Os oes gennych ddiddordeb yn nechreuadau a datblygiad deddfwriaeth hawlfraint yn y Deyrnas Gyfunol, byddai'n werth i chi gael cip ar y gweithiau canlynol gan Ronan Deazley:
  • Ronan Deazley, On the origin of the right to copy: Charting the Movement of Copyright Law in Eighteenth Century Britain (Rhydychen, 2005)
  • Ronan Deazley, Rethinking Copyright: history, theory, language (Edward Elgar Publishing, 2006)

1 comment:

  1. @Dafydd
    Diddorol. Edrych ymlaen at gofnodion pellach.

    Dyw'r term "eiddo deallusol" ddim yn helpu llawer gyda dealltwriaeth go iawn. Hawlfraint yw hawlfraint. Ond efallai well i mi blogio rhywbeth llawn ar fy mlog.

    Gyda llaw, o dan ba drwydded yw dy flog?

    ReplyDelete